2012 Rhif 2499 (Cy. 274) (C. 98)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Cafodd Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (“y Ddeddf”) y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2012.

 

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau ar 1 Hydref 2012 i adennill taliadau parcio heb eu talu mewn cysylltiad â pharcio cerbyd ar dir perthnasol yng Nghymru.

 

Diffinnir “relevant land” yn Atodlen 4 i’r Ddeddf fel tir ar wahân i briffordd sydd i’w chynnal a’i chadw ar draul y cyhoedd, man parcio a ddarperir a/neu a reolir gan awdurdod traffig neu unrhyw dir arall nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth barcio statudol.

 

 


2012 Rhif 2499 (Cy. 274) (C. 98)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012

Gwnaed                                  1 Hydref 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 120(2) a (3) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012([1]).

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.

Y diwrnod penodedig

2.(1) Daw darpariaethau’r Ddeddf a restrir ym mharagraff (2) isod i rym ar 1 Hydref 2012.

(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw—

(a)     Adran 56; a

(b)     Atodlen 4.

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.

 

1 Hydref 2012

 



([1]) 2012 p.9.